Credaf ei fod yn syniad arbennig i gyfieithu llyfrau Roald Dahl un o fy hoff awduron.  Rydw i newydd orffen ‘Charlie a’r Esgynnydd Mawr Gwydr’ llyfr arbennig o dda llawn hud Willy Wonka ydyw sydd hefyd yn ddoniol iawn.  Rydw i’n hoffi sawl cymeriad yn enwedig Miss Tibbs a Phennaeth y fyddin.  

Cymeriadau doniol a diddorol ydynt gyda Phennaeth y Fyddin yn ceisio ffrwydro Charlie a Willy Wonka oherwydd doedd e ddim yn deall sut oedd Mr Wonka yn siarad felly cymerodd yn ei erbyn ac yn rhyfedd iawn roedd e’n ystyried Mr Wonka fel dyn estron o Blaned Mawrth neu Wener.

Yn gyntaf y mae swn dychrynllyd yn anfon Charlie, ei deulu ac yr hudolus Mr Wonka i fyny i’r gofod ac y mae anturiaethau di-ri ar fin gychwyn.  Y maent yn derbyn gwahoddiad i aros yn y Gwesty Gofod UDA ond dydy Pennaeth y Fyddin ddim yn hoffi nhw ac mae hyn yn arwain at hwyl a sbri.

Fy hoff ddigwyddiad oedd Tad-cu George, Mam-gu Georgina a Mam-gu Josephine yn cymryd gormod o Wonka-Feit ac y maent yn troi mewn i fabis.  Sgrechiodd Mrs Bucket mewn panig ar ôl gweld ei theulu wedi newid mewn chwinciad ond dwedodd Mr Wonka,

‘Ti fydd y person cyntaf yn y byd i newid cewyn ei thad!’

Doeddwn i ddim yn gallu stopio chwerthin pan ddarllenais y frawddeg hon, am hwyl!

Yr ydym yn cwrdd ag estronwyr newydd sbon yn ystod y stori ‘Cnedwyr Gwib’ a chredaf fod y disgrifiad ohonynt yn arbennig iawn,

Roedd ambell wahaniaeth bach o ran maint a siâp y pump, ond roedd ganddyn nhw i gyd yr un croen crychlyd gwyrddfrown ac roedd y croen yn tonni ac yn curo'

Dydw i ddim eisiau sboilio’r diwedd a dwi’n si?r dydych chi ddim yn gallu aros i weld os bydd teulu Charlie yn aros fel babis.  Cofiwch, i gael mynedfa i fyd hudolus Willy Wonka ewch mas a phrynu'r llyfr arbennig yma nawr!! 

Gan Owain Carbis 

.